O! Pa bryd cāf wel'd dy wyneb, Oll yn heddwch, oll yn ras, Heb un pechod yn fy nghlwyfo, Nac yn dirgel gario'r maes; Heb fod rhyngof len a'r bywyd, Nac un ysbryd marw syth, Heb un waedd yn fy nghydwybod, Ond tangnefedd pur dilith. Bryd cāf wel'd y tir dymunol, Hyfryd baradwysaidd wlad, Lle mae brodyr i mi filiwn, Lle mae 'Mhriod lle mae Nhad; Lle cāf orphwys o fy llafur, Lle cāf wella'm dwfn friw, A chael gwledd trag'wyddol gysson, Fry yn nghwmni'm Tad a'm Duw.William Williams 1717-91 Tōn [8787D]: Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74) gwelir: Bryd ca'i wel'd y tir dymunol Bryd fy Nhad caf yfed dyfroedd? Capten mawr ein hiechydwriaeth Ofer i mi wel'd y ddaear |
O when may I see thy face, All in peace, all in grace? Without any sin wounding me, Nor secretly carrying the field; Without there being a curtain between me and the life, Nor any stiff, dead spirit, Without any shout in my conscience, But pure, unfailing tranquility. When may I see the desirable land, The delightful land of paradise, Where there are a million brothers to me, Where my Spouse is, where my Father is; Where I may rest from my labour, Where I may heal my deep wound, And get a constant, eternal feast, Up in the company of my Father and my God.tr. 2019 Richard B Gillion |
|